SL(6)604 – Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025

Cefndir a diben

Roedd Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2024 (Rheoliadau 2024) yn diwygio Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion 2006 (Rheoliadau 2006) er mwyn galluogi’r awdurdodau cymwys sy’n gyfrifol am reolaethau swyddogol i adennill costau yr eir iddynt wrth gynnal archwiliadau a rheolaethau mewn perthynas â gwyliadwriaeth anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid.

Roedd Rheoliadau 2024 hefyd yn diwygio Rheoliadau 2006 drwy ddiwygio’r ffioedd sydd i’w talu mewn cysylltiad â gwyliadwriaeth anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid.

Fodd bynnag, roedd gwall yn y ffioedd a nodir yn Rheoliadau 2024.

Mae Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025 (Rheoliadau 2025) yn cywiro’r gwall hwnnw – mae Rheoliadau 2025 yn mewnosod y ffi cywir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2006, gan ddiwygio’r taliad sydd i’w adennill am gadw gwyliadwriaeth o weddillion Soliped[1] o £0.04287 y carcas i £0.4287 y carcas.

Fodd bynnag, roedd gwall yn y dyddiad cychwyn yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2025.

Roedd Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025 (Rheoliadau Newydd 2025) yn dirymu Rheoliadau 2025 ac yn nodi’n gywir y gyfraith ynghylch y taliad am wyliadwriaeth gweddillion a’r dyddiad cychwyn.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrwyd y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a’r eglurhad am dorri’r confensiwn a gynigiodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mewn llythyr at y Llywydd ar 21 Mawrth 2025.

Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y llythyr:

Gwnaed Rheoliadau 2025 i ddiwygio gwall drafftio yn Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2024. Bydd y Rheoliadau 2025 newydd yn cyflwyno'r un diwygiad a amlinellwyd, gan gynnwys rheoliad ychwanegol i ddirymu'r fersiwn wreiddiol wallus.

Mae'n hanfodol bod y Rheoliadau 2025 newydd yn dod i rym cyn Rheoliadau 2025, er mwyn i Reoliadau 2025 gael eu dirymu cyn iddynt ddod i rym ar 28 Mawrth 2025.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

24 Mawrth 2025

 

 



[1]Mae anifeiliaid carngaled (Solipeds) yn anifeiliaid un carn anholltog ar bob troed; er enghraifft, ceffylau, asynnod, mulod a bastardiaid mulod.